Hybu Cig Cymru have launched a new, innovative group for those working across the Welsh red meat supply chain. Meat Minds is a 12-month, sector wide programme, developed to stimulate discussion, increase understanding and cultivate connections across the supply chain.
The programme is open to 21–35-year-olds with a passion for the red meat production sector in Wales.
Successful applicants will benefit from:
-
Modules: five sessions focusing on production, processing and consumer engagement.
-
Mentor: each participant will be assigned a mentor from an area of choice within the supply chain and spend a day in the working life of their mentor.
-
Project: the group will design and deliver research projects to gain valuable data and information for the sector.
As a business/organisation would you be willing to share the attached advert? Do you have any staff/members/supplier you would like to nominate?
For further information please visit https://meatpromotion.wales/en/news-industry-info/meat-minds-cultivating-connections-across-the-supply-chain or contact Elizabeth Swancott. HCC would welcome the chance to deliver a presentation outlining what this exciting programme has to offer and to discuss with your members/staff/suppliers.
CIG-WEITHIO – I feithrin cysylltiadau o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio grŵp newydd ac arloesol ar gyfer unigolion sy’n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru. Mae Cig-weithio yn rhaglen 12-mis sydd wedi’i ddatblygu i ysgogi trafodaethau, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae’r rhaglen ar agor i unigolion rhwng 21-35 mlwydd oed sy’n angerddol am gynhyrchu cig coch yng Nghymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cymryd rhan mewn:
-
Modiwlau: pum sesiwn a fydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu, prosesu ac ymgysylltu gyda’r defnyddwyr.
-
Mentor: cael mentor o faes o’u dewis o fewn y gadwyn gyflenwi a chael cyfle i dreulio diwrnod ym mywyd eu mentor.
-
Prosiect: bydd y grŵp yn cynllunio a chyfrannu at brosiectau ymchwil i greu data a gwybodaeth newydd, ddefnyddiol ar gyfer y sector.
A fyddech cystal, fel busnes/sefydliad, yn fodlon rhannu’r hysbyseb yma os gwelwch yn dda? A oes gennych aelod o staff/aelod/cyflenwr yr hoffech ei enwebu?
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/cig_weithio_i_feithrin_cysylltiadau_o_fewn_y_gadwyn_gyflenwi_cig_coch neu cysylltwch ag Elizabeth Swancott yn HCC.
Byddem ni yn HCC yn falch o’r cyfle i roi cyflwyniad i amlinellu’r hyn sydd gan y cynllun cyffrous hwn i’w gynnig ac i’w drafod ymhellach gyda’ch aelodau/staff/cyflenwyr.